Diolch am gael y cyfle i gyfrannu sylwadau ar y materion y dylai'r Pwyllgor ystyried yn ystod y Pumed Cynulliad.

Mae'n anodd rhagweld pa faterion fydd yn flaenoriaeth yn ystod holl gyfnod y pumed Cynulliad, ond mae'r cynigion isod yn amlygu rhai o'r blaenoriaethau a'r datblygiadau credaf y gallai'r Pwyllgor eu hystyried yn y flwyddyn neu ddwy nesaf.

Fel y gwyddoch, mae fy swyddfa yn cynhyrchu adroddiad blynyddol ar y camau a gymerwyd wrth arfer fy swyddogaethau. Mae adroddiad 2015-16 wedi ei gyhoeddi a’i osod gerbron y Cynulliad. Mae trefn wedi ei sefydlu erbyn hyn ble byddaf yn cael fy holi gan y Pwyllgor sydd a chyfrifoldeb am y Gymraeg ar gynnwys yr adroddiad yn ystod yr hydref. Mae'r sesiwn yn gyfle i'r Pwyllgor graffu ar waith y Comisiynydd o safbwynt atebolrwydd ac yn gyfle i mi ac i'r Pwyllgor dynnu sylw at faterion sydd o flaenoriaeth ar y pryd.

Rwy'n rhagweld y gall y Pwyllgor fod a diddordeb mewn darnau penodol iawn o waith gaiff ei gyflawni ac y cyhoeddir gwybodaeth amdano gennyf o dro i dro dros gyfnod y Cynulliad. Gall materion godi yn sgil gwneud gwaith ymchwil, cyhoeddi adroddiadau, gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, neu yn sgil fy swyddogaeth o roi cyngor i unrhyw berson. Byddaf hefyd yn fodlon cynghori'r Pwyllgor yn 61 yr angen ar faterion strategol sy'n ofynnol er mwyn cryfhau sefyllfa'r Gymraeg yng Nghymru.

Mae hefyd yn bosibl y bydd materion o fudd cyhoeddus yn arwain at drafodaeth Pwyllgor yn sgil fy mod wedi dyfarnu ar ymchwiliad i achos neu oherwydd fy mod wedi cyhoeddi adroddiadau ar ymchwiliadau o fethiant i gydymffurfio a safonau.

Fe gyhoeddais fy Adroddiad 5 Mlynedd ar sefyllfa’r Gymraeg yn yr Eisteddfod eleni. Dyma'r adroddiad cyntaf o'i fath ar y Gymraeg .  Mae'r adroddiad yn dadansoddi canlyniadau cyfrifiad 2011 ac yn cynnig canfyddiadau ynghylch llwyddiant amrywiol ddulliau o greu siaradwyr Cymraeg newydd a'r defnydd a wneir o'r Gymraeg.   Er enghraifft daw'r adroddiad i'r casgliad mai addysg yw prif ffynhonnell siaradwyr Cymraeg heddiw a bod dysgu'r Gymraeg mor gynnar a phosibl ym mywydau plant nad ydynt yn siarad Cymraeg gartref yn allweddol i ruglder y plant hynny. Mae'r dystiolaeth yn dangos hefyd na tu cynnydd arwyddocaol dros y blynyddoedd diwethaf yn y niferoedd sy'n derbyn addysg neu ofal drwy gyfrwng y Gymraeg. Efallai bod rhai o'r materion hyn o ddiddordeb i'r Pwyllgor a byddwn yn barod iawn i drafod canfyddiadau’r adroddiad gyda chi. Mae nifer o gasgliadau'r Adroddiad yn ymwneud ag addysg a byddaf hefyd yn ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl lfanc ac Addysg wrth iddo ymgynghori ar ei raglen waith.

Byddaf yn lansio Adroddiad Sicrwydd 2015-16 ar 12 Hydref. Mae'r adroddiad yn disgrifio profiadau pobl wrth iddynt ddefnyddio’r Gymraeg gyda sefydliadau cyhoeddus ac yn datgelu pa gyfleoedd a diffyg cyfleoedd oedd iddynt gael gwasanaethau yn Gymraeg. Mae fy swyddogion wedi bod yn trafod trefniadau ar gyfer cyflwyno canfyddiadau'r adroddiad i'r Pwyllgor yn fuan yn y tymor newydd, felly edrychaf ymlaen at drafodaeth bellach ar hynny.

Mater arall fydd yn flaenoriaeth i'r Pwyllgor ydi ymgynghoriad y Llywodraeth ar Strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg. Mae'r targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 wedi derbyn cryn sylw hyd yma, a bydd yr wythnosau nesaf yn gyfle i ystyried a yw'r mesurau sydd yn y strategaeth ddrafft yn ddigonol er mwyn gallu cyrraedd y targed hwnnw.

Gan droi at faterion polisi penodol, cydnabyddir r61 allweddol y cyfryngau a darlledu mewn cynyddu defnydd o ieithoedd lleiafrifol. Mae datblygiadau ar y gorwel all effeithio'n sylweddol ar y ddarpariaeth Gymraeg, gan gynnwys adolygiad o S4C yn 2017 ac adolygiad o Siarter y BBC.

Mater arall all ddylanwadu ar sefyllfa'r Gymraeg yw cynllunio gwlad a thref. Yn sgil pasio Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, sy'n darparu'n benodol ar gyfer cryfhau ystyriaeth i'r Gymraeg wrth wneud penderfyniadau cynllunio, bydd angen adolygiad maes o law o lwyddiant y gyfundrefn gynllunio newydd i warchod a hybu'r Gymraeg. Mae'n ddyddiau cynnar ar hyn o bryd ac efallai bydd gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig sy'n gyfrifol am graffu ar y maes cynllunio ddiddordeb hefyd.

Fel Pwyllgor byddwch yn ymwybodol o adroddiad etifeddiaeth Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth y pedwerydd Cynulliad a oedd yn argymell materion i'r Pwyllgor nesaf eu hystyried. Ymhlith y materion a gynigiwyd ar y Gymraeg oedd:

-        ystyried y gostyngiad cyffredinol yng nghyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg yn ystod y pedwerydd Cynulliad a monitro a yw polisiau a chyllidebau'r Llywodraeth yn cyflawni'r hyn sydd ei angen i sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu.

-        monitro'r trefniadau cyllido parhaus ar gyfer swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, yn enwedig o gofio y bydd y Comisiynydd yn cyflwyno'r cylch nesaf o safonau iaith Gymraeg yn y ddwy flynedd nesaf

-        ystyried a yw Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn ateb y diben.

Yng nghyswllt y pwynt olaf hwn, mae'r Llywodraeth eisoes wedi cyhoeddi ei bod am ystyried diwygio Mesur y Gymraeg yn ystod y pumed Cynulliad ac yn sicr bydd trafodaethau ar hynny'n flaenoriaeth i'r Pwyllgor wrth i'r Llywodraeth ddatblygu ei chynlluniau yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd  nesaf.

Mae'n anorfod y bydd materion a blaenoriaethau eraill yn dod i'r amlwg wrth i'r Cynulliad nesaf fynd rhagddo. Rwy'n awyddus i gael perthynas gydweithredol ac adeiladol gyda'r Pwyllgor fel bod modd i ni gynnal trafodaethau a fydd yn arwain at hybu a hwyluso defnyddio'r  Gymraeg.